Priming cross-linguistic influence and predicting priming: Evidence from bilingual children
The starting point for this talk is the long-standing observation that under certain circumstances, one of a bilingual child’s two languages may influence the other (Paradis & Genesee, 1996). This cross-linguistic influence varies across linguistic domains, language combinations and children, and several language-level and individual-level factors have been invoked to explain this variation (see Serratrice, 2013, van Dijk, et al., 2022 for review). Which of these factors constitute necessary and/or sufficient conditions for cross-linguistic influence and the exact mechanisms by which cross-linguistic influence occurs remain unclear, however. In this talk, I will report on a series of recent studies from my research group in which we try to arrive at a better understanding of cross-linguistic influence in bilingual language development by drawing on insights from the bilingual adult psycholinguistic literature (e.g., Hartsuiker et al., 2004). Our central hypothesis, following work by Serratrice (2016, 2022), is that cross-linguistic influence in bilingual children is driven by (structural) priming and reflects a certain level of cross-language sharing. I will show that effects of cross-linguistic influence are visible in within- as well as between-language priming, and that it is possible to prime ungrammatical as well as grammatical cross-linguistic influence. I will furthermore explore the impact of linguistic and non-linguistic factors, namely language proficiency and perspective-taking, on priming behaviour in bilingual and monolingual children. Along the way, we consider some theoretical and practical challenges raised by these findings, and we explore CLI not only from a researcher’s perspective but also from the perspective of children, parents and teachers.
Preimio dylanwad trawsieithyddol a rhagfynegi preimio: Tystiolaeth gan blant dwyieithog
Y man cychwyn ar gyfer y sgwrs hon yw’r ystyriaeth hirsefydlog y gall un o ieithoedd plentyn dwyieithog ddylanwadu ar y llall mewn amgylchiadau penodol (Paradis & Genesee, 1996). Mae’r dylanwad trawsieithyddol hwn yn amrywio ar draws parthau ieithyddol, cyfuniad ieithoedd a phlant, a chyfeiriwyd at sawl ffactor ar lefel ieithyddol ac ar lefel unigol i esbonio’r amrywiad hwn (gweler Serratrice, 2013, van Dijk, et al., 2022 am adolygiad). Yr union rai o’r ffactorau hyn sy’n angenrheidiol a/neu’n ddigonol ar gyfer dylanwad trawsieithyddol, a’r union fecanweithiau y mae eu hangen er mwyn i ddylanwad trawsieithyddol ddigwydd, yn parhau’n aneglur, fodd bynnag. Yn y sgwrs hon, byddaf yn adrodd ar gyfres o astudiaethau diweddar gan fy ngrŵp ymchwil lle’r ydym yn ceisio cael dealltwriaeth well o ddylanwad trawsieithyddol mewn datblygiad ieithoedd dwyieithog gan dynnu ar fewnwelediadau o’r llenyddiaeth seicoieithyddol am oedolion dwyieithog (e.e., Hartsuiker et al., 2004). Ein prif ddamcaniaeth, gan ddilyn gwaith gan Serratrice (2016, 2022), yw bod dylanwad trawsieithyddol mewn plant dwyieithog yn cael ei ysgogi gan breimio (strwythurol) ac yn adlewyrchu lefel benodol o rannu trawsieithyddol. Byddaf yn dangos bod effeithiau dylanwad trawsieithyddol i’w gweld mewn preimio o fewn ieithoedd yn ogystal â rhwng ieithoedd, a’i bod hi’n bosibl preimio dylanwad trawsieithyddol anramadegol yn ogystal â dylanwad gramadegol. Ar ben hynny byddaf yn archwilio effaith ffactorau ieithyddol ac anieithyddol, sef hyfedredd iaith a chymryd persbectif, ar ymddygiad preimio mewn plant dwyieithog ac unieithog. Ar hyd y ffordd, rydym yn ystyried rhai heriau damcaniaethol ac ymarferol a ddaeth i’r amlwg yn sgil y canfyddiadau hyn, wrth i ni archwilio dylanwadau trawsieithyddol nid yn unig o bersbectif yr ymchwilydd ond hefyd o bersbectif plant, rhieni ac athrawon.