Gwennan Higham

Developing personal integration projects through a multilingual Welsh language provision for adult migrants

This talk is based on a study which examines the experiences of four adult migrants enrolled on a new Welsh for Speakers of Other Languages (WSOL) provision in Wales. It will investigate the investment of these migrants in learning Welsh and the impact of WSOL on their self-development goals in a new host country, described as personal integration projects. While English remains the primary integration medium for adult migrants in Wales, the findings in this study suggest that learning the minority Welsh language can strengthen the participants’ agency and personal growth. These findings further challenge monolingual norms, traditionally adopted for adult migrant language instruction in Wales, as elsewhere in the UK. Ultimately, this research underscores the transformative potential of an inclusive and multilingual minority language education in shaping a meaningful notion of multicultural citizenship in Wales.

Datblygu prosiectau integreiddio personol drwy ddarpariaeth Gymraeg amlieithog i fewnfudwyr

Bydd y cyflwyniad hwn yn seiliedig ar astudiaeth ymchwil sy’n edrych ar brofiadau pedwar o fewnfudwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau Cymraeg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (WSOL) newydd yng Nghymru. Bydd yn ymchwilio i fuddsoddiad yr ymfudwyr hyn mewn dysgu Cymraeg ac effaith WSOL ar eu hunanddatblygiad mewn cymdeithas groeso newydd, a ddisgrifir fel prosiectau integreiddio personol. Er mai Saesneg yw’r prif gyfrwng integreiddio ar gyfer ymfudwyr yng Nghymru, mae canfyddiadau’r astudiaeth hon yn awgrymu y gall dysgu’r Gymraeg grymuso a chryfhau hunanwerth yr unigolion hyn. Mae’r canfyddiadau hefyd yn herio normau unieithog, a fabwysiadwyd yn draddodiadol ar gyfer addysg i ymfudwyr yng Nghymru, fel mewn mannau eraill yn y DU. Mae’r ymchwil hwn yn tanlinellu’r potensial sydd i ddarpariaeth addysg gynhwysol ac amlieithog wrth lunio syniadau ystyrlon o ddinasyddiaeth amlddiwylliannol yng Nghymru.