Christos Pliatsikas

Bilingualism and Neuroplasticity: Taking stock and moving forward

Bilingualism has been shown to cause adaptations to the structure of the brain, in ways similar to those reported for other type of cognitively challenging experiences. However, these effects have been expressed in variable, and sometimes contradictory, ways. This includes different directions of those adaptations, with both increases and reductions in grey matter volume and white matter diffusivity reported, different effects for various age groups (children, young adults, healthy older adults, older patients), but also different effects for groups with qualitatively and quantitatively different bilingual experiences. Following current suggestions that bilingualism should be treated as a multidimensional dynamic experience, this talk will review the available evidence from different age groups through the perspective of experience-based neuroplasticity and will link the evidence to neuroplastic patterns reported in other (non-linguistic) domains of learning. A theoretical suggestion will be presented, the Dynamic Restructuring Model, which synthesizes the available findings and draws parallels to theories on the biological basis of experience-based neuroplasticity. This will be followed up by some newer evidence from my lab on bilingual children and adults, young and old, and will conclude with suggestions on how the field should move forward.

Dwyieithrwydd a Niwroblastigedd: Ystyried a symud ymlaen

Dangoswyd bod dwyieithrwydd yn achosi addasiadau i strwythur yr ymennydd, mewn ffyrdd sy’n debyg i’r rhai yr a gofnodir mewn mathau eraill o brofiadau sy’n heriol yn wybyddol. Serch hynny, mae’r effeithiau hyn wedi’u mynegi mewn ffyrdd amrywiol ac weithiau anghyson. Mae hyn yn cynnwys cyfeiriadau gwahanol yr addasiadau hynny, gydag adroddiadau am gynnydd a gostyngiad yng nghyfaint y freithell, a thryledded y gwynnin, gwahanol effeithiau ar gyfer grwpiau oedran amrywiol (plant, oedolion ifanc, oedolion hŷn iach, cleifion hŷn), ond hefyd effeithiau gwahanol ar gyfer grwpiau â phrofiadau dwyieithog sy’n wahanol yn feintiol ac yn ansoddol. Yn dilyn awgrymiadau cyfredol y dylai dwyieithrwydd gael ei drin fel profiad dynamig aml-ddimensiwn, bydd y sgwrs hon yn adolygu’r dystiolaeth sydd ar gael gan grwpiau oedran gwahanol drwy safbwynt niwroblastigrwydd sy’n seiliedig ar brofiad a bydd yn cysylltu’r dystiolaeth â’r patrymau niwroblastig yr adroddir amdanynt mewn parthau dysgu eraill (heb fod yn rhai ieithyddol).   Caiff awgrym damcaniaethol ei gyflwyno, y Model Ailstrwythuro Dynamig, sy’n cyfuno’r canfyddiadau sydd ar gael ac yn cymharu’r rhain â damcaniaethau ar sail fiolegol niwroblastigrwydd sy’n seiliedig ar brofiad.  Caiff hyn ei ddilyn gan dystiolaeth fwy diweddar o’m labordy ar blant ac oedolion dwyieithog, hen ac ifanc, a byddwn yn cloi gydag awgrymiadau ar sut dylai’r maes hwn symud yn ei flaen.